

Caredigrwydd Dangos trwy esiampl sut mae caredigrwydd yn dod â'r gorau allan mewn pobl.
Cymreictod Helpu ein plant i werthfawrogi diwylliant a hanes cyfoethog Cymru, ac i ddeall eu bod yn perthyn i ni i gyd.
Dyfalbarhad Dangos sut mae dyfalbarhad a pheidio byth â rhoi’r gorau iddi yn arwain at ganlyniadau.
Hapusrwydd Rydym yn ymdrechu i sicrhau bod ein hysgol yn amgylchedd hapus a diogel i bawb.
Iachus Ffitrwydd, llesiant, bwyd da ac awydd iach i ddysgu.
Parch I athrawon, rhieni a’n gilydd.
Perthyn Trwy ddod i Ysgol y Dderi, rydych chi’n rhan o’n teulu am byth!
O'r fesen fach, tyfwn i fod yn .....
..ddysgwyr uchelgeisiol, galluog sy'n barod i ddysgu drwy gydol eu hoes
...gyfranwyr mentrus, creadigol sy'n barod i chwarae eu rhan yn llawn yn eu bywyd a'u gwaith
...ddinasyddion egwyddorol, gwybodus sy'n barod i fod yn ddinasyddion Cymru a'r byd
...unigolion iach, hyderus sy'n barod i fyw bywydau boddhaus fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas
Croeso

Mae gennyf gysylltiad oes â’r ysgol arbennig yma – fy nhad oedd y pennaeth cyntaf pan agorwyd yr ysgol ym 1976 a dyma ble ddechreuais i fy addysg cynradd yn dair oed! Atgofion melys iawn sydd gennyf yn blentyn, a bellach fel pennaeth presennol yr ysgol. Braint yw cael gwasanaethu’r dalgylch eang sy’n cynnwys Betws Bledrws, Cellan, Llanfair Clydogau, Llangybi, Llwynygroes a Silian. Mae cynnig profiadau dysgu cyfoethog i’n plant ni yn greiddiol i’r ysgol ac mae pob aelod o deulu’r ysgol – plant, staff, rhieni, llywodraethwyr a’r gymuned ehangach yn bwysig iawn. Mae llawer o wybodaeth ar y wefan hon, ond y ffordd orau i ddod i adnabod ein hysgol yw I ddod i ymweld â ni. Cysylltwch i drefnu ymweliad – bydd croeso cynnes yma.
Mrs Heini Thomas – Head Teacher
Dyddiadau Pwysig

Cadwch eich dyddiadur yn gyfredol gyda’n llythyrau diweddaraf at rieni a dyddiadau tymor Cyngor Ceredigion
Newyddion diweddaraf!
Dewch i bori drwy’r postiadau diweddaraf ar Facebook – cewch gipolwg ar yr hyn mae ein plant a’n staff wedi bod yn ei wneud!
Staff yr ysgol
Bwydlen hydref 2025

















