Llysgenhadon Efydd
Mae ein Llysgenhadon Efydd yn mynychu sesiynau hyfforddi gyda Ceredigion Actif,
ac yn sicrhau ein bod ni i gyd yn cadw’n heini ac yn iach!
🏅 Rôl y Llysgenhadon Efydd
⭐️ Gweithredu fel modelau rôl i weddill yr ysgol.
⭐️ Codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd bod yn actif.
⭐️ Annog pawb i arwain ffordd o fyw iach.
⭐️ Codi proffil chwaraeon yn yr ysgol.
⭐️ Cynyddu cyfranogiad mewn AG a chwaraeon, tu mewn a thu allan i’r ysgol.
⭐️ Gwrando ar farn ac anghenion disgyblion, a darparu cyfleoedd ar gyfer profiadau chwaraeon newydd.
⭐️ Cyflwyno newyddion chwaraeon i weddill yr ysgol yn ystod gwasanaethau.


