GAD

Mae’r ysgol yn defnyddio Grant Amddifadedd i gyflogi staff cynorthwyol ychwanegol er mwyn cefnogi gwaith Llythrennedd a Rhifedd disgyblion penodol.

Ein nod yw sicrhau fod pob unigolyn yn cael budd llawn o gwricwlwm a phrofiadau cymdeithasol yr ysgol.

Er bod gan bob disgybl oed cynradd hawl i brydau ysgol am ddim erbyn hyn, efallai eich bod yn gymwys i gael mwy o gymorth ariannol drwy’r Grant Hanfodion Ysgol.

Pwrpas y Grant Hanfodion Ysgol yw darparu cymorth ariannol i deuluoedd incwm isel i brynu :

Gwisg ysgol gan gynnwys cotiau ac esgidiau;
Cit chwaraeon ysgol gan gynnwys esgidiau;
Gwisg ar gyfer gweithgareddau cyfoethogi, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i’r canlynol: sgowtiaid; Geidiau; Cadedi; celfyddydau ymladd; chwaraeon; celfyddydau perfformio neu ddawns;
Offer e.e. bagiau ysgol a deunydd ysgrifennu;
Offer arbenigol lle mae gweithgareddau cwricwlwm newydd yn dechrau, megis dylunio a thechnoleg;
Offer ar gyfer teithiau ysgol tu allan megis dysgu yn yr awyr agored e.e. dillad glaw;
Offer TG – gliniaduron a thabledi yn unig.

Mae cyllid o hyd at £125 ar gael i bob plentyn cymwys (o’r Derbyn i Flwyddyn 11), ac eithrio’r rhai ym Mlwyddyn 7 sydd â hawl i £200.

Drwy wneud cais am y Grant a’i dderbyn, byddwch hefyd yn sicrhau cyllid ychwanegol i’r ysgol i gefnogi dysgwyr dan anfantais.

Darllenwch fwy am y 'Grant' drwy ddilyn y ddolen isod.

School Essentials – Ceredigion County Council

Fel arall, mae croeso i chi gysylltu â’r Awdurdod Lleol ar (01545) 570 881 i gwblhau cais dros y ffôn.

Scroll to Top