Mae'r clwb brecwast ar gael i bob plentyn yn yr ysgol am 8y.b. Yn ddelfrydol, dylai'r disgyblion fwyta cyn cyrraedd yr ysgol. Er hynny, mae brecwast iach ar gael sy'n cynnwys ffrwythau, grawnfwyd, tost a sudd.
Mae hwn o fudd i rieni sydd angen mynd i'r gwaith yn gynnar yn y bore. Caniateir disgyblion i ddod mewn o 8y.b ac aros hyd nes fydd y gwersi'n dechrau.
Bydd angen i'r rhieni gofrestru eu plant gyda'r ysgol ar gyfer y gwasanaeth yma. Gellir fynychu'r clwb brecwast yn syth ar ôl cofrestru.
Mae hefyd yn bosib i chi lawrlwytho ac argraffu'r ffurflen gofrestru yma. Cwblhewch a dychwelwch i Sheila neu i swyddfa'r ysgol.