Lleolir Blwyddyn 3 a 4 o fewn adain wreiddiol yr ysgol. Lleolir Blwyddyn 5 a 6 yn yr estyniad newydd. Mae ystafell bwrpasol ar gyfer gwaith Celf a Dylunio, neu waith thema.
Rydyn ni’r plant yn cael ein dysgu gan dîm o athrawon sy’n gyfrifol am wahanol feysydd o’r cwricwlwm. Trwy wneud hyn sicrheir dilyniant a gwneir defnydd effeithiol o arbenigedd.
Nodau ac Amcanion y Cwricwlwm
Gweledigaeth ein Hathrawon
Nodau
- Creu ysgol gymunedol hapus ar gyfer ni’r plant sy’n dod o wahanol ardaloedd.
- Cyflwynir y pedair elfen o ddysgu, sef sgiliau, gwybodaeth, dealltwriaeth ac agweddau i ni er mwyn i ni gyrraedd y safon cyrhaeddiad uchaf bosibl.
- Datblygir cwricwlwm sydd mor eang, perthnasol a chytbwys ag sy’n bosibl tra’n sicrhau dilyniant a pharhad.
- Anelir at roi cyfle i bob un ohonom elwa ar bob agwedd o waith yr ysgol. Creda’r athrawon mai unigolyn yw pob un ohonom ac mai eu dyletswydd nhw fel athrawon yw adnabod a datblygu ein potensial drwy ddarparu cyfle cyfartal.
- Nid yw disgyblion ac anabledd yn cael eu trin yn wahanol nac yn llai ffafriol na disgyblion eraill. Rydyn ni’n ymfalchïo yn ein hadeilad holl gynhwysol.
- Hybir agwedd gadarnhaol tuag fywyd a gwaith yn gyffredinol wrth geisio cwrdd â’n gofynion cymdeithasol.
- Mae Ysgol y Dderi yn ysgol sy’n gweithredu cynllun ACTS (Activated Children’s Thinking Skills) a chynllunir gwersi o fewn y cwricwlwm i ehangu ein sgiliau meddwl.
- Cynigir cyfle i ni weithio fel unigolion, parau, grwpiau neu ddosbarth cyfan.
Amcanion
Yn y broses o ateb gofynion y Cwricwlwm Cenedlaethol ceisia’r athrawon gyflawni’r canlynol:-
- Datblygu dwy iaith yn eu holl agweddau er mwyn iddynt fod yn ddull ystyrlon o gyfathrebu, boed ar lafar, drwy ddarllen neu mewn ysgrifen.
- Cyflwyno gwybodaeth a chysyniadau mathemategol mewn modd pwrpasol a byw i ni fel ein bod yn deall y pwnc a gweld ei berthnasedd i fywyd.
- Dysgu gwyddoniaeth mewn ffordd gyffrous sy’n dangos rhyfeddod a chymhlethod ni ein hunain a’r byd yr ydym yn byw ynddo.
- Rhoi profiad i ni i gynllunio a chreu pethau ymarferol a diddorol ym myd technoleg.
- Cyflwyno hanes a daearyddiaeth mewn ffordd sydd mor berthnasol â phosibl i ni.
- Datblygu hunanfynegiant trwy gerddoriaeth, meim, drama, celf a chrefft ac addysg gorfforol.
- Rhoi syniad o werthoedd moesol i ni a chreu ymwybyddiaeth o anghenion plant a phobl yn ein gwlad ein hunain a thu hwnt.
- Gwneud defnydd o ddatblygiadau technolegol cyfoes er mwyn rhoi ymarfer i ni yn y grefft o’u defnyddio ac agor ein llygaid i bosibiliadau cyfarpar o’r fath.