GOSOD Y SYLFEINI ar gyfer dysgu gydol oes yw ein nod yn y blynyddoedd cynnar. Mae plant yn dysgu mwy mewn pum mlynedd nag ydynt gweddill eu bywydau.
Yn yr Uned Feithrin a Derbyn rydym yn rhoi sail eang a chytbwys i alluogi plant i ddysgu a datblygu. Mae'r pwyslais ar chwarae a dysgu gweithredol er mwyn cael effaith gadarnhaol ar allu plant i ddysgu a datblygu.
Mae cwricwlwm Y Cyfnod Sylfaen wedi ei ddatblygu o dan y saith Maes Dysgu gydag Addysg Grefyddol yn stadudol.
Dyma'r saith Maes Dysgu:
Mae'r Cyfnod Sylfaen yn gosod pwyslais mawr ar ddatblygu'r plant yn y meysydd canlynol:
Mae'r plant yn dysgru trwy amrywiol weithgareddau mewn ardaloedd dysgu gwahanol, tu mewn a thu allan. Cynlluniwyd yr ardaloedd o amgylch cymeriadau Pentre Bach megis 'T? Sali Mali', 'Garej Bili Bom Bom' neu'r goedlan.
Gall blant ddechrau yn y meithrin y tymor wedi eu penblwydd yn dair oed. Rhaid llenwi'r ffurflen dderbyn a'i danfon at Swyddfa Addysg Ceredigion.
Mae gan rieni'r opsiwn o ddod â'u plant yn rhan amser - bob bore o 9.05yb tan naill ai 11.30yb neu 1.00yp, yn dibynnu os ydynt am gael cinio gyda ni. Mae cinio dau gwrs yn cael ei baratoi ar y safle gan ddefnyddio cynnyrch lleol, mae opsiwn llysieuol ar gael yn ogystal.
Mae'r plant yn trosglwyddo'n naturiol o'r meithrin i'r derbyn y tymor wedi eu penblwydd yn bedair oed.
Golyga hyn eu bod yn mynychu ysgol llawn amser o 9.05yb tan 3.15yp.
Mae 'Clwb Mes Bach' ein clwb ôl ysgol ar gael i'r plant.
Cymraeg yw prif iaith y dosbarth. Defnyddir Saesneg mewn modd sensitif ar gyfer helpu plant di-Gymraeg i setlo yn eu hamgylchfyd newydd.
Mae pob plentyn yn derbyn llaeth yn ystod y bore o dan nawdd Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Mae cinio'n cael ei baratoi ar safle'r ysgol. Mae modd talu Mrs Spate, ein dynes cinio ar fore Llun neu Gwener. Mae ffurflenni cinio am ddim ar gael.
Bydd bob plentyn yn derbyn ffeil las bersonol. Rydym yn newid llyfrau llyfrgell ar fore Llun,ac yn achlysurol bydd y plant yn derbyn tasg cartref ar ddydd Gwener. Felly bydd angen dod â'r ffeil las i'r ysgol ar y diwrnodau hynny.
Mae plant y derbyn yn cael gwers nofio am yn ail wythnos. Mae angen gwisg nofio synhwyrol ar gyfer y wers (dim siorts hir i'r bechgyn), mae angen i'r merched glymu eu gwallt yn ôl a pheidio a gwisgo gemwaith. Bydd angen rhoi enw'r plentyn ar bob dilledyn.
Mae gwisg ysgol ar gael oddi wrth Miss Gwen, un o gymorthyddion y Cyfnod Sylfaen neu Mrs Helen yn y swyddfa.
Mae dysgu yn hwyl! Edrychwch ar y lluniau isod sy'n rhoi blas o'r gweithgareddau amrywiol mae'r plant yn eu mwynhau yn yr Uned Feithrin a Derbyn.