"Mae Ysgol Y Dderi yn gymuned hapus, ofalgar a chartrefol. Mae’r pennaeth brwdfrydig a’r staff ymroddedig yn gweithio’n hynod effeithiol er mwyn creu hafan ddiogel ac amgylchedd dysgu cynhwysol i’r disgyblion. Mae effaith yr arweinyddiaeth gadarn yn weledol ar draws yr ysgol. Mae gan yr holl staff berthynas glòs a chynnes â’r disgyblion. Maent yn trin y disgyblion gyda charedigrwydd a pharch ac yn darparu profiadau ysgogol a diddorol sydd yn ennyn diddordeb."

Scroll to Top